BA (Hons) Cymraeg gyda Newyddiaduraeth (Welsh with Journalism)
Mae'r cwrs hwn yn agor nifer o lwybrau gyrfa. Mae’n cynnig sylfaen academaidd dda mewn Cymraeg (dwy ran o dair o’r cwrs) ynghyd â nifer o fodiwlau ymarferol ac academaidd mewn Newyddiaduraeth. Ceir cyfle i flasu newyddiaduraeth heb gau’r drws ar yrfa yn yr holl feysydd sy’n gofyn am radd mewn Cymraeg.Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau, yn cynnwys meysydd blaengar megis medrau cyfieithu, ysgrifennu creadigol ac astudiaethau ffilm a theatr.Mae gennym enw da o safbwynt safon ein haddysgu a gofal myfyrwyr.Mae’r staff yn weithgar ym meysydd ymchwil, beirniadaeth lenyddol, ysgrifennu creadigol a’r cyfryngau.Mae proffil uchel yr Ysgol a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod llawer o alw am ein myfyrwyr ni.Gallwch barhau i astudio yn yr Ysgol hyd at lefel MA, MPhil a PhD.Dysgir modiwlau Newyddiaduraeth yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, lle ceir newyddiadurwyr profiadol i’ch hyfforddi.