BA (Hons) Cymraeg (Welsh) and Linguistics

Ar y cwrs cyd-anrhydedd hwn, bydd eich modiwlau'n cael eu rhannu rhwng Cymraeg ac Ieithyddiaeth. Mae Cymraeg yn faes eang sy'n cwmpasu chwedlau'r Mabinogi a gwaith ôl-fodernaidd awduron fel Mihangel Morgan. Ieithyddiaeth yw'r astudiaeth o strwythur iaith, sut y caiff ieithoedd eu caffael, sut y cânt eu defnyddio, a sut y gall nam ieithyddol amharu arnynt. Wrth i Gymru gofleidio dwyieithrwydd fwyfwy byddwch hefyd yn astudio defnydd proffesiynol y Gymraeg ac yn anelu at yrfa yn y sectorau marchnata, llywodraeth leol, darlledu, cyhoeddi, addysgu, cyfieithu a'r celfyddydau.Byddwch yn astudio'r pynciau hyn mewn canolfan sydd ag enw da drwy'r byd ar gyfer astudio Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd a Dwyieithrwydd, a honno wedi ei lleoli mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf i'r mwyafrif. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd hynod werthfawr i wneud gwaith maes mewn meysydd fel dwyieithrwydd, caffael a throsglwyddo iaith, a sut mae plant yn ymwneud ag iaith.O gyfuno Cymraeg ac Ieithyddiaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau gwyddonol sy'n briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sut i ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth, ac yn dod i ddeall mwy am hanes a chymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Cyfoethogir hyn trwy edrych ar ddatblygiadau ieithyddol yn fyd-eang, a dod i ddeall yn wyddonol sut y mae iaith yn cael ei defnyddio a'i phrosesu gan unigolion a chymunedau, gan gynnwys rhai dwyieithog.Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennu'n hyderus ac yn effeithiol, i gyfieithu a sgriptio, ac o gasglu a dadansoddi data i gyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn modd eglur, trefnus ac effeithiol. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle arbennig i gyfuno'r llenyddol, y creadigol, yr ieithyddol a'r gwyddonol. Yn sicr, mae amrywiaeth y cwrs yn eithriadol o werthfawr, a'r ddau bwnc yn cynnig rhychwant eang o sgiliau a gwybodaeth i chi.Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu English Language and English Literature (with Foundation Year) QQCF.

Read more
£16,000 Per Year

International student tuition fee

3 Years

Duration

Sep 2024

Start Month

Aug 2024

Application Deadline

Upcoming Intakes

  • September 2024

Mode of Study

  • Full Time