BA (Hons) Cymraeg (Welsh) and Music

Mae cysylltiad clos rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. O gyfuno'r ddau bwnc cewch eich arfogi â gwybodaeth o iaith, llenyddiaeth a sgiliau cerddorol sy'n briodol i amrywiaeth dda o yrfaoedd gan gynnwys y sectorau celfyddydol a threftadol ac addysg a darlledu. Mae cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau eraill y myfyrwyr a bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddarlithio. Mae Cymraeg ym Mangor hefyd yn llawer mwy na chwrs gradd. Mae'n becyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broffesiynol a boddhaus wrth greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.Dyma gwrs sy’n caniatáu i chi fwynhau holl gyfoeth llenyddiaeth, drama a diwylliant creadigol y Gymraeg ochr yn ochr â holl gyfoeth y byd cerddorol yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n gyfuniad deinamig o’r creadigol, yr ymarferol a’r academaidd a hynny mewn dau faes sydd â chysylltiad clos a chyffrous â'i gilydd. Gall myfyrwyr sy’n mwynhau gweithgarwch creadigol ddilyn gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith yn y Gymraeg, ac ar yr un pryd ddilyn modiwlau cyfansoddi cerddoriaeth. Mae hwn yn llawer mwy na chwrs gradd: mae'n cynnig pecyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan greadigol yn niwylliant cyfoes Cymru. Cofiwch hefyd fod cymuned ddiwylliannol ddeinamig Prifysgol Bangor yn rhoi cyfle i chi ymuno mewn corau, bandiau a cherddorfeydd, yn ogystal â pherfformio mewn eisteddfodau a gwyliau diwylliannol. Mae gan Brifysgol Bangor ddwy neuadd gyngerdd, pedair stiwdio electroacwstig, ac mae Canolfan Pontio yn cynnal digwyddiadau lu ym meysydd drama, llenyddiaeth, ffilm a cherddoriaeth.O gyfuno Cymraeg a Cherddoriaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau cerddorol sy'n briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sgiliau dadansoddol newydd er mwyn ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth a cherddoriaeth, ac fe welwch hefyd berthnasedd y traddodiad Cymraeg i rai o ffurfiau diwylliannol pwysicaf y byd, gan ystyried sut mae llenorion a cherddorion wedi ymateb i ofynion yr oesoedd. Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennu'n hyderus ac yn effeithiol yn y Gymraeg, i gyfieithu a sgriptio; ac o berfformio, cyfansoddi a defnyddio cerddoriaeth yn y gymuned, i ddysgu sgiliau oesol harmoni a gwrthbwynt. Mae amrywiaeth a chyfoeth y cwrs gradd hwn yn eithriadol o werthfawr, ac mae'r ddau bwnc yn gwir gyfoethogi ei gilydd.Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu Music (with Foundation Year) W30F.

Read more
£16,000 Per Year

International student tuition fee

3 Years

Duration

Sep 2024

Start Month

Aug 2024

Application Deadline

Upcoming Intakes

  • September 2024

Mode of Study

  • Full Time